2011 Rhif 1826 (Cy. 198)

amaethyddiaeth, cymru

Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011

NODYN ESOBNIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

 

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n ymwneud â charcasau anifeiliaid buchol llawn-dwf a moch, yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu ac yn ail-wneud, mewn perthynas â Chymru, ddarpariaethau Rheoliadau Carcasau Eidion (Dosbarthu) 1991 (O.S. 1991/2242) a Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch 1994 (O.S. 1994/2155). Mae’r Rheoliadau hyn yn gorfodi Erthygl 42 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 (OJ Rhif L 299, 16.11.2007, t.1), ac Atodiad V i’r Rheoliad hwnnw, sy’n ymwneud â graddfeydd yr UE (Undeb Ewropeaidd) ar gyfer dosbarthu carcasau, a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1249/2008 (OJ Rhif L 337, 16.12.2008, t.3), sy’n pennu manylion pellach ynglŷn â gweithredu’r graddfeydd hynny ar gyfer dosbarthu carcasau.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gwneud hysbysiadau i Weinidogion Cymru, gan weithredwyr lladd-dai sy’n cigydda anifeiliaid buchol llawn-dwf neu foch (rheoliad 5).

Mae’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau ynghylch dal trwyddedau, gan bersonau sy’n dosbarthu carcasau buchol neu ar gyfer dosbarthu carcasau o’r fath gan ddefnyddio offer graddio awtomatig (rheoliadau 9 i 11).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud yn ofynnol bod cofnodion penodol yn cael eu cadw (rheoliadau 12 ac 16 ac Atodlenni 3 a 4).

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â gorfodi, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â phwerau swyddogion awdurdodedig, hysbysiadau gorfodi, hysbysiadau cosb ac achosion troseddol. Mae rheoliadau 19(3) a 25 i 30 yn nodi’r tramgwyddau o dan y Rheoliadau; yn dilyn collfarn ddiannod, mae pob un o’r tramgwyddau, ac eithrio tramgwyddau o dan reoliad 29(2) (cofnodion a marciau ffug), yn dwyn cosb o ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Yn benodol, mae rheoliadau 25 a 26 yn darparu bod torri darpariaethau penodedig o’r ddeddfwriaeth UE (a nodir yn Atodlenni 1 a 2) yn dramgwydd.

Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn, sydd ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, neu ar-lein ar ei wefan.


2011 Rhif 1826 (Cy. 198)

amaethyddiaeth, cymru

Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011

Gwnaed                           21 Gorffennaf 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       25 Gorffennaf 2011

Yn dod i rym                              1 Medi 2011

CYNNWYs

RHAN 1

DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

 

1.       Enwi, cychwyn a chymhwyso

2.       Dehongli

3.       Hysbysiadau

4.       Dirymiadau

 

RHAN 2

HYSBYSIADAU GAN WEITHREDWYR

 

5.       Hysbysiadau gan weithredwyr

 

RHAN 3

CARCASAU BUCHOL

 

6.       Cymhwyso’r Rheoliadau hyn i weithredwyr buchol ar raddfa fach

7.       Awdurdod cymwys etc: carcasau buchol

8.       Labelu yn lle marcio

9.       Trwydded i ymgymryd â dosbarthu

10.     Trwydded ar gyfer graddio awtomatig

11.     Apelau ynghylch trwyddedau

12.     Cofnodion: carcasau buchol

 

RHAN 4

CARCASAU MOCH

 

13.     Esemptiad ar gyfer gweithredwyr moch ar raddfa fach

14.     Awdurdod cymwys etc: carcasau moch

15.     Cofnodion yn lle marcio

16.     Cofnodion: carcasau moch

 

RHAN 5

GORFODI A THRAMGWYDDAU

 

17.     Pwerau mynediad

18.     Pwerau swyddogion awdurdodedig

19.     Hysbysiadau gorfodi

20.     Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi

21.     Hysbysiadau cosb

22.     Cyfyngiad ar ddwyn achos am dramgwydd cosb

23.     Talu’r gosb

24.     Tynnu hysbysiad cosb yn ôl

25.     Tramgwyddau: darpariaethau eidion Ewropeaidd

26.     Tramgwyddau: darpariaethau moch Ewropeaidd

27.     Tramgwyddau: hysbysiadau gan weithredwyr

28.     Tramgwyddau: trwyddedau (carcasau buchol)

29.     Tramgwyddau: cofnodion a marciau

30.     Tramgwyddau: rhwystro etc

31.     Cyfnod ar gyfer dwyn erlyniad

32.     Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

33.     Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy

34.     Tramgwyddau: cosbau

 

         ATODLEN 1  —  Darpariaethau Ewropeaidd: carcasau buchol

                RHAN 1

                RHAN 2

         ATODLEN 2  —  Darpariaethau Ewropeaidd: carcasau moch

         ATODLEN 3  —  Cofnodion: carcasau buchol

         ATODLEN 4  —  Cofnodion: carcasau moch

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi([1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr UE. Maent yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno([3]).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at yr offerynnau UE canlynol fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i'w gilydd—

(a)     Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer marchnadoedd amaethyddol ac yn ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig ([4]), a

(b)     Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1249/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar roi ar waith raddfeydd y Gymuned ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid a hysbysu eu prisiau ([5]).

RHAN 1

DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, a deuant i rym ar 1 Medi 2011.

Dehongli

2.(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “anifail buchol llawn-dwf” (“adult bovine animal”) yw anifail buchol sydd â’i bwysau byw yn fwy na 300 cilogram;

ystyr “carcas buchol” (“bovine carcase”) yw carcas neu hanner carcas anifail buchol llawn-dwf a gigyddwyd ac sy’n dwyn marc iechyd y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 5(2) o Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl, a Phennod III o Adran I o Atodiad I i’r Rheoliad hwnnw([6]); ac yn y diffiniad hwn, ystyr “carcas” (“carcase”) yw’r holl gorff fel y’i cyflwynir ar ôl gwaedu, diberfeddu a thynnu’r croen, ac ystyr “hanner carcas” (“half-carcase”) yw’r cynnyrch a geir drwy wahanu carcas o’r fath yn gymesur drwy ganol pob fertebra gyddfol, dorsal, meingefnol a sacrol, a thrwy ganol y sternwm a’r symffysis isgiopwbig;

ystyr “carcas mochyn” (“pig carcase”) yw corff mochyn glân sydd wedi ei gigydda, ei waedu a’i ddiberfeddu, yn gyfan neu wedi ei rannu ar hyd y llinell ganol;

ystyr “cyfathrebiad rhagnodedig” (“prescribed communication”) yw cyfathrebiad o’r canlyniadau dosbarthu fel sy’n ofynnol gan Erthygl 7(1) o Reoliad y Comisiwn;

ystyr “darpariaeth eidion Ewropeaidd” (“European beef provision”) yw darpariaeth a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1, y disgrifir ei chynnwys yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno;

ystyr “dosbarthu” (“classification”), ac eithrio fel y dynodir yn wahanol yn rheoliad 6, yw—

(a)     dosbarthu carcasau eidion yn unol â’r darpariaethau eidion Ewropeaidd, neu

(b)     dosbarthu carcasau moch yn unol â’r darpariaethau moch Ewropeaidd,

(c)     yn ôl fel y digwydd, a rhaid dehongli termau cytras yn unol â hynny;

ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw person sy’n cynnal busnes lladd-dy cymeradwy;

ystyr “lladd-dy cymeradwy” (“approved slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda a thrin anifeiliaid buchol llawn-dwf neu foch, y mae eu cig wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl ac

(a)     sydd wedi ei gymeradwyo neu’i gymeradwyo’n amodol o dan Erthygl 31(2) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau y gwireddir cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid ([7]), neu

(b)     (er nad yw wedi ei gymeradwyo neu’i gymeradwyo’n amodol fel sy’n ofynnol o dan Erthygl 4(3) o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid ([8])) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel lladd-dy trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995([9]);

ystyr “mochyn glân” (“clean pig”) yw mochyn na defnyddiwyd ar gyfer bridio;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1249/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar roi ar waith raddfeydd y Gymuned ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid a hysbysu eu prisiau;

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer marchnadoedd amaethyddol ac yn ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig;

ystyr “Rheoliadau 1991” (“the 1991 Regulations”) yw Rheoliadau Carcasau Eidion (Dosbarthu) 1991([10]); ac

ystyr “Rheoliadau 1994” (“the 1994 Regulations”) yw Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch 1994([11]).

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn, ond nid yw’n cynnwys person a benodir at y diben o ystyried apêl o dan reoliad 11;

(2) Mae i’r termau eraill, a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir y termau Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn Rheoliad y Comisiwn neu Reoliad y Cyngor yn ogystal, yr ystyron a ddygir gan y termau cyfatebol Saesneg yn yr offerynnau UE hynny.

(3) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)     mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn yn gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, a

(b)     mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Cyngor yn gyfeiriad at Reoliad y Cyngor fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Hysbysiadau

3.(1) Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol, neu yr awdurdodir, ei roi i unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen.

(2) Ceir rhoi unrhyw hysbysiad o’r fath drwy—

(a)     ei ddanfon at y berson;

(b)     ei adael yng nghyfeiriad priodol y person; neu

(c)     ei anfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw.

(3) Pan fo hysbysiad o’r fath i gael ei roi i gorff corfforaethol, ceir ei roi i swyddog o’r corff hwnnw.

(4) At ddibenion y rheoliad hwn, ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978([12]) (cyflwyno dogfennau drwy’r post) o ran y modd y’i cymhwysir i’r rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y bwriedir rhoi hysbysiad iddo yw ei gyfeiriad olaf sy’n hysbys, ac eithrio mai’r cyfeiriad priodol yn achos corff corfforaethol neu swyddog o’r corff hwnnw yw cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff.

(5) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol; ac

ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff corfforaethol.

Dirymiadau

4. Dirymir y canlynol—

(a)     Rheoliadau 1991 i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru;

(b)     Rheoliadau 1994 i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru;

(c)     Rheoliadau Carcasau Eidion (Dosbarthu) (Diwygio) (Cymru) 1994([13]);

(ch) Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch (Diwygio) (Cymru) 2004([14]); a

(d)     darpariaethau canlynol Gorchymyn y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth 2008([15]), i’r graddau, yn unig, y maent yn gymwys o ran Cymru—

                           (i)    ym mharagraff 8 o Atodlen 5, y cofnod mewn perthynas â Rheoliadau 1994, a

                         (ii)    erthygl 18 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r cofnod hwnnw.

RHAN 2

HYSBYSIADAU GAN WEITHREDWYR

Hysbysiadau gan weithredwyr

5.(1) Rhaid i bob person sy’n weithredwr ar 1 Medi 2011, neu a ddaw yn weithredwr ar ddyddiad diweddarach, roi hysbysiad i Weinidogion Cymru o’r manylion a bennir ym mharagraff (3), o fewn 28 diwrnod ar ôl y dyddiad hwnnw.

(2) Ystyrir bod person sydd wedi rhoi hysbysiad o dan—

(a)     rheoliad 4(1) neu (2) o Reoliadau 1991, neu

(b)     rheoliad 4(1) neu (2) o Reoliadau 1994,

wedi rhoi hysbysiad o dan baragraff (1).

(3) Y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)     enw llawn a chyfeiriad y gweithredwr;

(b)     pan fo’r gweithredwr yn bartneriaeth neu’n gydberchnogion, enwau llawn a chyfeiriadau pob un o’r partneriaid neu gydberchnogion;

(c)     pan fo’r gweithredwr yn gorff corfforaethol, enw llawn y corff, cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig a rhif cofrestru’r corff; ac

(ch) cyfeiriad, rhif teleffon a rhif cymeradwyo’r lladd-dy.

(4) Pan fo unrhyw newid yn digwydd mewn unrhyw un o’r manylion a bennir ym mharagraff (3), rhaid i’r gweithredwr, o fewn 28 diwrnod ar ôl y newid, roi i Weinidogion Cymru hysbysiad o fanylion y newid.

(5) Pan fo gweithredwr (“G”) yn peidio â bod yn weithredwr lladd-dy cymeradwy, rhaid i G, o fewn 10 diwrnod ar ôl peidio a bod yn weithredwr o’r fath, roi i Weinidogion Cymru hysbysiad o’r canlynol—

(a)     y dyddiad y peidiodd G a bod yn weithredwr ; a

(b)     y person (os oes un) sy’n olynu G fel gweithredwr y lladd-dy hwnnw.

(6) Pan fo lladd-dy cymeradwy’n peidio â bod yn lladd-dy o’r fath, rhaid i weithredwr y lladd-dy, o fewn 10 diwrnod ar ôl y darfyddiad, roi i Weinidogion Cymru hysbysiad o ddyddiad y darfyddiad.

RHAN 3

CARCASAU BUCHOL

Cymhwyso’r Rheoliadau hyn i weithredwyr buchol ar raddfa fach

6.(1) Nid yw’n ofynnol bod gweithredwr buchol ar raddfa fach yn dosbarthu carcasau buchol.

(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i weithredwr buchol ar raddfa fach nad yw’n dosbarthu carcasau buchol.

(3) Fodd bynnag, os yw gweithredwr buchol ar raddfa fach yn dewis dosbarthu carcasau buchol, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r gweithredwr hwnnw ac mewn perthynas â dosbarthu’r carcasau hynny.

(4) Ym mharagraffau (2) a (3), ystyr “dosbarthu” (“classify”) yw dosbarthu naill ai’n unol â’r darpariaethau eidion Ewropeaidd neu rywfodd arall yn hytrach nag yn unol â’r darpariaethau hynny, a rhaid dehongli “dosbarthiad” (“classification”) yn unol â hynny.

(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gweithredwr buchol ar raddfa fach” (“small-scale bovine operator”) yw gweithredwr lladd-dy cymeradwy lle nad oes mwy na 75 o anifeiliaid buchol llawn-dwf yn cael eu cigydda bob wythnos, ar gyfartaledd dros flwyddyn.

(6) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n rhwystro cymhwyso’r Rheoliadau hyn i weithredwr mewn perthynas â charcasau moch, os oes moch hefyd yn cael eu cigydda yn lladd-dy’r gweithredwr hwnnw.

Awdurdod cymwys etc: carcasau buchol

7.(1) Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion—

(a)     Erthygl 9 o Reoliad y Comisiwn (awdurdodi technegau graddio awtomatig);

(b)     Erthygl 10(2)(b) o Reoliad y Comisiwn (dosbarthu drwy ddefnyddio technegau graddio awtomatig); ac

(c)     Erthygl 16 o Reoliad y Comisiwn (hysbysu’r awdurdod cymwys ynghylch prisiau wythnosol a chyfrifo prisiau wythnosol).

(2) Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am wiriadau yn y fan a’r lle, yn unol â’r disgrifiaf o “on-the-spot checks” yn Erthygl 11 o Reoliad y Comisiwn.

Labelu yn lle marcio

8. Yn ddarostyngedig i—

(a)     paragraff olaf Erthygl 6(4) o Reoliad y Comisiwn,

(b)     Erthygl 4(3)(c) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1669/2006([16]) sy’n pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999 mewn perthynas â phrynu cig eidion i mewn([17]), ac

(c)     pwynt I(a) o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 826/2008 sy’n gosod rheolau cyffredin ynglŷn â chaniatáu cymorth storio preifat ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol([18]),

caiff gweithredwr, yn hytrach na marcio carcas buchol yn unol ag Erthygl 6(3) o Reoliad y Comisiwn, ei labelu yn unol ag Erthygl 6(4) o’r Rheoliad hwnnw.

Trwydded i ymgymryd â dosbarthu

9.(1) Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu trwydded i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol, i unrhyw berson sy’n gwneud cais o’r fath ac sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru yn gymwys i ymgymryd â dosbarthu, ond caiff Gweinidogion Cymru wrthod caniatáu trwydded o’r fath os bodlonir Gweinidogion Cymru nad yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol.

(2) Yn ychwanegol at y pŵer i ddirymu trwydded yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn Erthygl 12(2) o Reoliad y Comisiwn (dosbarthiadau neu adnabyddiadau anghywir), caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu trwydded a ganiatawyd i weithredwr o dan y rheoliad hwn—

(a)     os yw’r person wedi mynd yn groes i unrhyw un o delerau neu amodau’r drwydded honno; neu

(b)     os bodlonir Gweinidogion Cymru nad yw deiliad y drwydded honno bellach yn berson addas a phriodol i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol.

(3) Pan fo Gweinidogion Cymru’n gwneud penderfyniad o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â thrwydded, a’r penderfyniad hwnnw’n ysgogi hawl i apelio o dan reoliad 11, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r person dan sylw o’r canlynol—

(a)     yr hawl i apelio; a

(b)     manylion y person y ceir gwneud apêl iddo.

Trwydded ar gyfer graddio awtomatig

10.(1) Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu trwydded i weithredwr lladd-dy cymeradwy, i’w awdurdodi i ddefnyddio offer graddio awtomatig ar gyfer dosbarthu carcasau buchol yn y lladd-dy hwnnw.

(2) Yn ychwanegol at y pŵer i ddirymu trwydded yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn Erthygl 12(2) o Reoliad y Comisiwn, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu trwydded a ganiatawyd i berson o dan y rheoliad hwn—

(a)     os yw’r gweithredwr wedi mynd yn groes i unrhyw un o delerau neu amodau’r drwydded honno; neu

(b)     os yw Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offer graddio awtomatig bellach yn bodloni’r safonau sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad II i’r rheoliad hwnnw, boed hynny am resymau sy’n gysylltiedig â’r offer ei hunan neu’r modd y defnyddir yr offer gan y gweithredwr.

(3) Pan fo Gweinidogion Cymru’n gwneud penderfyniad o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â thrwydded, a’r penderfyniad hwnnw’n ysgogi hawl i apelio o dan reoliad 11, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r gweithredwr o’r canlynol—

(a)     yr hawl i apelio; a

(b)     manylion y person y ceir gwneud apêl iddo.

Apelau ynghylch trwyddedau

11.(1) Caiff person apelio yn erbyn—

(a)     penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wrthod cais gan y person hwnnw am drwydded o dan reoliad 9 neu 10;

(b)     un o’r telerau neu amodau a osodwyd gan Weinidogion Cymru mewn trwydded a ganiatawyd i’r person hwnnw o dan reoliad 9 neu 10; neu

(c)     penderfyniad gan Weinidogion Cymru i atal dros dro neu ddirymu trwydded a ganiatawyd i’r person hwnnw o dan reoliad 9 neu 10.

(2) Rhaid gwneud yr apêl i berson a benodir at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.

(3) Rhaid i’r person a benodir ystyried yr apêl (ond ni chaiff ystyried unrhyw wybodaeth newydd nad oedd ar gael i Weinidogion Cymru ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad gwreiddiol) ac unrhyw sylwadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a rhaid iddo gyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag argymhelliad ar sut i weithredu.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru wedyn gyrraedd penderfyniad terfynol, a hysbysu’r apelydd o’r penderfyniad hwnnw ac o’r rhesymau drosto.

Cofnodion: carcasau buchol

12.(1) Rhaid i weithredwr lladd-dy cymeradwy gadw cofnod o’r manylion a bennir yn Atodlen 3 mewn perthynas â phob carcas buchol a ddosberthir yn y lladd-dy hwnnw.

(2) Rhaid i’r gweithredwr ddal gafael ar bob cofnod am gyfnod o 12 mis ar ôl diwedd y flwyddyn galendr y mae’r cofnod yn berthynol iddi.

RHAN 4

CARCASAU MOCH

Esemptiad ar gyfer gweithredwyr moch ar raddfa fach

13.(1) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i weithredwr lladd-dy cymeradwy lle nad oes mwy na 200 o foch glân yn cael eu cigydda bob wythnos, ar gyfartaledd dros flwyddyn.

(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) sy’n rhwystro cymhwyso’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â charcasau buchol, os oes anifeiliaid buchol llawn-dwf hefyd yn cael eu cigydda yn lladd-dy’r gweithredwr hwnnw.

Awdurdod cymwys etc: carcasau moch

14.(1) Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22(2) o Reoliad y Comisiwn (pwysau carcasau).

(2) Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am wiriadau yn y fan a’r lle, yn unol â’r disgrifiaf o “on-the-spot checks” yn Erthygl 24 o Reoliad y Comisiwn.

Cofnodion yn lle marcio

15. Ac eithrio pan fo bwriad i farchnata carcas mochyn, heb ei dorri, mewn aelod-wladwriaeth arall, caiff gweithredwr, yn hytrach na marcio carcas mochyn yn unol ag Erthygl 21(3) o Reoliad y Comisiwn—

(a)     sicrhau y gellir adnabod carcas mochyn, a

(b)     cwblhau cofnod mewn perthynas â’r carcas hwnnw,

fel y darperir yn Erthygl 21(4) o’r Rheoliad hwnnw.

Cofnodion: carcasau moch

16.(1) Rhaid i weithredwr lladd-dy cymeradwy gadw cofnod o’r manylion a bennir yn Atodlen 4 mewn perthynas â phob carcas mochyn a ddosberthir yn y lladd-dy hwnnw.

(2) Rhaid i’r gweithredwr ddal gafael ar bob cofnod am gyfnod o 12 mis ar ôl diwedd y flwyddyn galendr y mae’r cofnod yn berthynol iddi.

RHAN 5

GORFODI A THRAMGWYDDAU

Pwerau mynediad

17.(1) Caiff swyddog awdurdodedig, ar unrhyw adeg resymol ac, os gofynnir iddo, ar ôl dangos awdurdodiad a ddilyswyd yn briodol, fynd i mewn i ladd-dy cymeradwy ac unrhyw fangre gysylltiedig, lle y gall fod carcasau’n cael eu trin, neu gofnodion mewn perthynas â’r carcasau hynny’n cael eu cadw, ac y diben o ganfod—

(a)     a oes tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael, neu wedi cael ei gyflawni yn y fangre; neu

(b)     a oes unrhyw dystiolaeth yn y fangre, o unrhyw dramgwydd o’r fath.

(2) Caiff y swyddog fynd â pha bynnag bersonau eraill a ystyria’n angenrheidiol gydag ef, gan gynnwys unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd.

(3) Os yw ynad heddwch, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw, wedi ei fodloni bod sail resymol dros fynd i mewn i fangre at unrhyw ddiben ym mharagraff (1) a naill ai—

(a)     bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu disgwylir gwrthodiad, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r gweithredwr; neu

(b)     byddai gwneud cais am fynediad, neu roi hysbysiad o’r fath, yn tanseilio’r diben o fynd i mewn, neu fod yr achos yn galw am weithredu ar frys, neu fod y fangre’n wag neu’r gweithredwr yn absennol dros dro,

caiff yr ynad, drwy lofnodi gwarant, awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i’r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen.

(4) Mae gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau’n ddilys am gyfnod o dri mis.

(5) Rhaid i swyddog sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre wag, neu fangre sydd â'i gweithredwr yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn i'r swyddog fynd i mewn.

Pwerau swyddogion awdurdodedig

18. Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan y Rheoliadau hyn—

(a)     archwilio unrhyw garcas buchol neu garcas mochyn neu ran o garcas o’r fath, neu unrhyw garcas neu ran o garcas yr amheua’r swyddog yn rhesymol ei fod yn garcas buchol neu garcas mochyn neu ran o garcas o’r fath, yn y fangre honno;

(b)     archwilio unrhyw gofnod y mae’n ofynnol i’r gweithredwr ei gadw o dan reoliad 12 neu 16, neu o dan Reoliad y Comisiwn, ac os defnyddir cyfrifiadur i gadw cofnod o’r fath, cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a’r chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig, a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â’r cofnod hwnnw, ac arolygu a gwirio gweithrediad y cyfryw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig;

(c)     gwneud yn ofynnol cyflwyno copïau neu ddyfyniadau o unrhyw gofnod o’r fath, ac os defnyddir cyfrifiadur i gadw cofnod o’r fath, gwneud yn ofynnol cynhyrchu’r cofnod mewn ffurf a fydd yn caniatáu ei gludo ymaith; ac

(ch) dal gafael yn unrhyw gofnod o’r fath os bydd rheswm gan y swyddog dros gredu y gall fod ei angen fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn.

Hysbysiadau gorfodi

19.(1) Os oes rheswm gan Weinidogion Cymru dros gredu bod person wedi cyflawni tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru roi i’r person hwnnw hysbysiad (hysbysiad gorfodi) yn unol â pharagraff (2).

(2) Rhaid i hysbysiad gorfodi—

(a)     ddatgan ar ba sail y mae Gweinidogion Cymru’n credu hynny;

(b)     nodi’r mater sy’n cyfansoddi’r tramgwydd;

(c)     nodi’r hyn mae’n rhaid i’r person hwnnw beidio â’i wneud, neu’r camau y mae’n rhaid, ym marn Gweinidogion Cymru, i’r person hwnnw eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn;

(ch) gwneud yn ofynnol bod y person yn peidio â chyflawni’r weithred a nodir yn yr hysbysiad, neu’n cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, neu gamau sydd o leiaf yn gyfwerth â’r rheini, o fewn cyfnod (o ddim llai na 14 diwrnod) a bennir yn yr hysbysiad;

(d)     hysbysu’r person hwnnw ynghylch yr hawl i apelio, a roddir gan reoliad 20; ac

(dd)            rhoi gwybod i’r person hwnnw o fewn pa gyfnod y caiff wneud apêl o’r fath.

(3) Mae unrhyw berson sy’n mynd yn groes i hysbysiad gorfodi neu’n peidio â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi yn euog o dramgwydd.

Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi

20.(1) Caiff person apelio i lys ynadon yn erbyn hysbysiad gorfodi os oes gan y person hwnnw reswm dros gredu na ddylid bod wedi rhoi’r hysbysiad.

(2) Caiff person apelio o fewn y cyfnod o un mis sy’n cychwyn gyda’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.

(3) Y weithdrefn a ddilynir yw gwneud cwyn am orchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980([19]) yn gymwys i’r achos.

(4) Yn dilyn apêl, caiff y llys naill ai ddiddymu neu gadarnhau’r hysbysiad, ac os bydd yn ei gadarnhau caiff wneud hynny naill ai yn ei ffurf wreiddiol neu gyda pha bynnag addasiadau a ystyrir yn briodol gan y llys.

Hysbysiadau cosb

21.(1) Os oes rheswm gan Weinidogion Cymru dros gredu bod person wedi cyflawni tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru roi i’r person hwnnw hysbysiad (hysbysiad cosb) yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2) Caiff hysbysiad cosb fod am unrhyw swm hyd at uchafswm o £5,000.

(3) Rhaid i hysbysiad cosb—

(a)     rhoi pa bynnag fanylion am amgylchiadau’r tramgwydd honedig ag sy’n angenrheidiol i roi gwybodaeth resymol am y tramgwydd;

(b)     datgan swm y gosb;

(c)     datgan yn ystod pa gyfnod, yn rhinwedd rheoliad 22, na chychwynnir achos ynglŷn â’r tramgwydd;

(ch) datgan y cyfeiriad lle y ceir talu’r gosb; a

(d)     datgan na cheir gwneud y taliad mewn arian parod.

Cyfyngiad ar ddwyn achos am dramgwydd cosb

22.(1) Pan fo hysbysiad cosb wedi ei roi i berson—

(a)     ni cheir dwyn achos yn erbyn y person hwnnw am y tramgwydd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad; a

(b)     ni cheir collfarnu’r person hwnnw am y tramgwydd os telir y gosb yn unol â rheoliad 23 cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys os tynnir yr hysbysiad cosb yn ôl yn unol â rheoliad 24.

Talu’r gosb

23.(1) Rhaid talu unrhyw gosb i Weinidogion Cymru drwy’i hanfon drwy’r post neu pa bynnag ddull arall a bennir yn yr hysbysiad.

(2) Mewn unrhyw achos a ddygir, bydd tystysgrif yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran Gweinidogion Cymru, ac yn datgan bod taliad o gosb wedi ei gael neu heb ei gael erbyn y dyddiad a nodir yn y dystysgrif, yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

Tynnu hysbysiad cosb yn ôl

24.(1) Ceir tynnu hysbysiad cosb yn ôl os oes rheswm gan Weinidogion Cymru dros gredu na ddylai’r hysbysiad cosb fod wedi ei roi (boed i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb, neu fel arall).

(2) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu hysbysiad cosb yn ôl drwy roi hysbysiad i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb, cyn neu ar ôl talu’r gosb.

(3) Pan dynnir hysbysiad cosb yn ôl, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw gosb a dalwyd o dan yr hysbysiad cosb, i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb, o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad o dynnu’r hysbysiad cosb yn ôl.

Tramgwyddau: darpariaethau eidion Ewropeaidd

25.(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 8 (labelu yn lle marcio), mae unrhyw berson sydd—

(a)     yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan ddarpariaeth eidion Ewropeaidd, neu

(b)     yn mynd yn groes i unrhyw waharddiad a gynhwysir mewn darpariaeth eidion Ewropeaidd,

yn euog o dramgwydd.

(2) Ond nid yw person sy’n dod o fewn paragraff (3) yn cyflawni tramgwydd os yw’r person hwnnw—

(a)     yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan ddarpariaeth eidion Ewropeaidd Rhan 2; neu

(b)     yn mynd yn groes i unrhyw waharddiad a gynhwysir mewn darpariaeth eidion Ewropeaidd Rhan 2.

(3) Mae person yn dod o fewn y paragraff hwn os yw’r person—

(a)     yn weithredwr lladd-dy cymeradwy sydd ei hunan yn diesgyrnu’r holl garcasau buchol y mae’n eu cael; neu

(b)     yn gyfrifol am ddosbarthu carcasau buchol mewn lladd-dy o’r fath.

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “darpariaeth eidion Ewropeaidd Rhan 2” (“Part 2 European beef provision”) yw darpariaeth o Reoliad y Comisiwn a bennir yng ngholofn 2 o Ran 2 o Atodlen 1.

Tramgwyddau: darpariaethau moch Ewropeaidd

26. Yn ddarostyngedig i reoliad 15 (cofnodion yn lle marcio), mae unrhyw berson sydd—

(a)     yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan ddarpariaeth moch Ewropeaidd, neu

(b)     yn mynd yn groes i unrhyw waharddiad a gynhwysir mewn darpariaeth moch Ewropeaidd,

yn euog o dramgwydd.

Tramgwyddau: hysbysiadau gan weithredwyr

27. Mae unrhyw berson sy’n peidio â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion rheoliad 5 (hysbysiadau gan weithredwyr) yn euog o dramgwydd.

Tramgwyddau: trwyddedau (carcasau buchol)

28.(1) Os ymgymerir â dosbarthu carcas buchol mewn lladd-dy cymeradwy —

(a)     heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 9, neu

(b)     gan dorri unrhyw un o amodau neu delerau trwydded o’r fath,

mae’r person sy’n ymgymryd â’r dosbarthu a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau’n euog o dramgwydd.

(2) Os ymgymerir â dosbarthu carcas buchol mewn lladd-dy cymeradwy drwy ddefnyddio offer graddio awtomatig—

(a)     heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 10 ar gyfer defnyddio’r offer hwnnw yn y lladd-dy hwnnw, neu

(b)     gan dorri unrhyw un o amodau neu delerau trwydded o’r fath,

mae’r person sy’n ymgymryd â’r dosbarthu a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau’n euog o dramgwydd.

(3) Mae unrhyw berson sy’n gwneud newid mewn trwydded a ganiatawyd o dan reoliad 9 neu 10 yn euog o dramgwydd.

Tramgwyddau: cofnodion a marciau

29.(1) Mae unrhyw berson sy’n peidio â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion rheoliad 12 (cofnodion: carcasau buchol) neu reoliad 16 (cofnodion: carcasau moch) yn euog o dramgwydd.

(2) Mae unrhyw berson sydd—

(a)     yn gosod ar garcas buchol, neu ran o garcas o’r fath, unrhyw farc—

                           (i)    a ragnodir gan Erthygl 6(3) o Reoliad y Comisiwn, neu

                         (ii)    sydd â thebygrwydd agos i farc a ragnodir gan y ddarpariaeth honno,

ac sy’n debygol o gamarwain;

(b)     yn gosod ar garcas mochyn, neu ran o garcas o’r fath, unrhyw farc—

                           (i)    a ragnodir gan Erthygl 21(3) o Reoliad y Comisiwn, neu

                         (ii)    sydd â thebygrwydd agos i farc a ragnodir gan y ddarpariaeth honno,

ac sy’n debygol o gamarwain;

(c)     yn gosod ar label, sy’n ymwneud â charcas buchol neu ran o garcas o’r fath, unrhyw ddynodiad—

                           (i)    a ragnodir gan Erthygl 6(4) o’r Rheoliad hwnnw, neu

                         (ii)    sydd â thebygrwydd agos i ddynodiad a ragnodir gan y ddarpariaeth honno,

ac sy’n debygol o gamarwain; neu

(ch) sy’n gosod ar garcas mochyn, neu ran o garcas o’r fath, label a ragnodir gan is-baragraff olaf Erthygl 21(3) o Reoliad y Comisiwn ac sy’n debygol o gamarwain;

yn euog o dramgwydd.

Tramgwyddau: rhwystro etc

30. Mae unrhyw berson sydd—

(a)     heb esgus rhesymol, yn rhwystro unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn,

(b)     heb esgus rhesymol, yn peidio â rhoi i unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn unrhyw gymorth neu wybodaeth y gofynnir amdano neu amdani yn rhesymol gan y person hwnnw at y diben o gyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn,

(c)     yn rhoi i unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn ffug neu’n gamarweiniol, neu

(ch) yn peidio â dangos unrhyw ddogfen neu gofnod pan ofynnir iddo wneud hynny gan unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn,

yn euog o dramgwydd.

Cyfnod ar gyfer dwyn erlyniad

31.(1) Ceir dwyn achos am dramgwydd o dan reoliad 19(3), 25, 26, 27, 28, 29(1) neu 30 o fewn cyfnod o 12 mis o’r dyddiad cyntaf y bydd tystiolaeth yn hysbys i’r erlynydd sy’n ddigonol, ym marn yr erlynydd, i gyfiawnhau achos.

(2) Ond ni cheir dwyn achos o’r fath ymhen mwy na 18 mis ar ôl cyflawni’r tramgwydd.

(3) At ddibenion paragraff (1)—

(a)     mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd, ac yn datgan y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod gyntaf am dystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau’r achos yn dystiolaeth derfynol o’r ffaith honno;

(b)     ystyrir bod tystysgrif sy’n datgan y mater hwnnw ac yn honni iddi gael ei llofnodi felly wedi ei llofnodi felly, oni phrofir y gwrthwyneb.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

32.(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnir gan gorff corfforaethol, wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, swyddog, mae’r swyddog hwnnw yn ogystal â’r corff corfforaethol yn euog o’r tramgwydd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2) Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd neu anweithiau aelod, mewn cysylltiad â swyddogaethau’r aelod hwnnw o reoli, fel pe bai’r aelod hwnnw’n gyfarwyddwr y corff.

(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff, neu berson sy’n honni gweithredu mewn unrhyw swydd o’r fath.

Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy

33. Mae’n amddiffyniad os gall person (“P”), a gyhuddir o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, brofi bod P wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r tramgwydd gan P neu gan berson o dan reolaeth P.

Tramgwyddau: cosbau

34.(1) Mae person sy’n euog o dramgwydd o dan—

(a)     rheoliad 19(3) (hysbysiadau gorfodi),

(b)     rheoliad 25 (darpariaethau eidion Ewropeaidd),

(c)     rheoliad 26 (darpariaethau moch Ewropeaidd),

(ch) rheoliad 27 (hysbysiadau gan weithredwyr),

(d)     rheoliad 28 (trwyddedau (carcasau buchol)),

(dd)            rheoliad 29(1) (cofnodion), neu

(e)     rheoliad 30 (rhwystro etc),

yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2) Mae person sy’n euog o dramgwydd o dan 29(2) (marciau camarweiniol etc) yn agored—

(a)     o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na’r uchafswm statudol; neu

(b)     o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

 

 

Alun Davies

 

Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru

 

21 Gorffennaf 2011


ATODLEN 1                                                                                Rheoliad 2

Darpariaethau Ewropeaidd: carcasau buchol

RHAN 1

 

(1) Y Rheoliad sy’n cynnwys y ddarpariaeth Ewropeaidd

(2)Y ddarpariaeth

(3) Y cynnwys

Rheoliad y Cyngor

Atodiad V, pwynt A(II), ynghyd ag Erthygl 2(3) a (4) a 6(6) o Reoliad y Comisiwn

Gofyniad i ddynodi’r categori o garcas fel a bennir yn y darpariaethau hyn

 

Atodiad V, pwynt A(III), ynghyd ag Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad I i’r Rheoliad hwnnw

Gofyniad i ddynodi, mewn perthynas â charcas, y dosbarth o gydffurfiad a gorchudd braster, fel a bennir yn y darpariaethau hyn

 

Atodiad V, pwynt A(IV)

Gofyniad i gyflwyno carcasau yn y dull penodedig

 

Atodiad V, pwynt A(V), is-baragraff cyntaf

Gofyniad bod lladd-dai cymeradwy’n dosbarthu carcasau yn unol â graddfa’r Gymuned

Rheoliad y Comisiwn

Erthygl 6(1)

Gofyniad ynghylch lleoliad y dosbarthu ac adnabod

 

Erthygl 6(2)

Gofynion ynghylch amseriad y dosbarthu, adnabod a phwyso

 

Erthygl 7(1) a (2) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 7(3)

Gofynion ynglŷn â’r cyfathrebiad rhagnodedig

 

Erthygl 9(4)

Gwahardd addasu manylebau technegol y technegau graddio awtomatig a drwyddedwyd, heb gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru

 

Erthygl 10

Gofynion ynglŷn â dosbarthu drwy ddefnyddio technegau graddio awtomatig

 

Erthygl 13(2) a (5) ac Atodiad III

Gofynion ynghylch pwyso’r carcas ac addasiadau i’r pwysau

 

Erthygl 13(3)

Gofyniad i gyflwyno’r carcas mewn ffordd benodedig, at y diben o ganfod prisiau’r farchnad

 

Erthygl 15

Gofynion ynghylch cofnodi prisiau

 

Erthygl 16(1), (2) a (3)

Gofynion ynghylch hysbysu prisiau

RHAN 2

 

(1) Y Rheoliad sy’n cynnwys y ddarpariaeth Ewropeaidd

(2)Y ddarpariaeth

(3) Y cynnwys

Rheoliad y Comisiwn

Erthygl 6(3)

Gofynion ynglŷn â marcio carcasau i ddynodi’r categori a’r dosbarth o gydffurfiad a gorchudd braster

 

Erthygl 6(4)

Gofynion ynglŷn â labelu carcas

 

Erthygl 6(5)

Gwaharddiad ar dynnu ymaith farciau a labeli cyn diesgyrnu

 

                                             ATODLEN 2                                 Rheoliad 2

Darpariaethau Ewropeaidd: carcasau moch

 

(1) Y Rheoliad sy’n cynnwys y ddarpariaeth Ewropeaidd

(2) Y ddarpariaeth

(3) Y cynnwys

Rheoliad y Cyngor

Atodiad V, pwynt B(II)

Gofyniad i ddosbarthu carcasau o fewn un o’r dosbarthau penodedig

 

Atodiad V, pwynt B(III), fel y’i haddaswyd gan Erthyglau 3 a 4 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/370/EC sy’n awdurdodi dulliau o raddio carcasau moch yn y Deyrnas Unedig([20])

Gofyniad i gyflwyno carcasau mewn modd a bennir yn y darpariaethau hyn

 

Atodiad V, pwynt B(IV), is-baragraff 1, ynghyd ag Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/370/EC, ac Atodiad I i’r Penderfyniad hwnnw

Gofyniad i raddio carcasau gan ddefnyddio dulliau a awdurdodir gan y Comisiwn

Rheoliad y Comisiwn

Erthygl 21(1)

Gofyniad ynghylch amseriad y gwaith o ddosbarthu carcasau

 

Erthygl 21(3)

Gofynion ynghylch marcio neu labelu carcasau

 

Erthygl 21(4)

Gofynion ynghylch adnabod carcas a chadw cofnod mewn perthynas â’r carcas

 

Erthygl 21(5)

Gwahardd tynnu ymaith fraster, cyhyr neu feinwe arall cyn pwyso, graddio neu farcio

 

Erthygl 22(1) a (2)

Gofynion ynghylch pwyso carcas, ac addasiadau i’r pwysau

 

Erthygl 23(1), (2) ac Atodiad IV

Gofynion ynghylch asesu’r cynnwys o gig coch mewn carcas


                    ATODLEN 3       Rheoliad 12

Cofnodion: carcasau buchol

1. Canlyniadau’r dosbarthu.

2. Rhif cymeradwyo’r lladd-dy.

3. Rhif y lladdiad neu rif cigydda’r anifail y cafwyd y carcas ohono, fel y’i dyroddwyd gan y gweithredwr.

4. Dyddiad y cigydda.

5. Pwysau’r carcas.

6. Y fanyleb trin a ddefnyddiwyd.

7. Cofnod bod y cyfathrebiad rhagnodedig wedi ei wneud.

8. Enw, llofnod a rhif cyfresol trwydded ddosbarthu’r person a ymgymerodd â’r dosbarthu.

                    ATODLEN 4       Rheoliad 16

Cofnodion: carcasau moch

9. Canlyniadau’r dosbarthu.

10. Rhif cymeradwyo’r lladd-dy.

11. Rhif y lladdiad neu rif cigydda’r anifail y cafwyd y carcas ohono, fel y’i dyroddwyd gan y gweithredwr.

12. Dyddiad y cigydda.

13. Pwysau cynnes y carcas, ynghyd â nodyn o’r canlynol—

(a)     unrhyw addasiad a wnaed ar gyfer y pwysau carcas oer, a

(b)     unrhyw gyfernod a gymhwyswyd.

14. Y ganran o gig coch yn y carcas.

15. Cofnod i ddynodi a oedd y tafod, yr arennau, gwêr yr arennau a’r diaffram yn gysylltiedig ynteu wedi’u tynnu ymaith.

16. Enw a llofnod y person a ymgymerodd a’r dosbarthu.

 

 



([1])           Yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi)  (Rhif 5) 2010, O.S. 2010/2690.

([2])           1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).

([3])           Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006

([4])           OJ Rhif L 299, 16.11.2007, t.1, y gwnaed diwygiadau iddo, nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([5])           OJ Rhif L 337, 16.12.2008, t.3.

([6])           OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig y Rheoliad wedi ei gynnwys mewn cywiriad (OJ Rhif L 226, 25.6.2004, t.83); gwnaed diwygiadau perthnasol gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 (OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t.27), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 (OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t.83), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t.1) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1021/2008 (OJ Rhif L 277, 18.10.2008, t.15).

([7])           OJ Rhif L 165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig y Rheoliad wedi ei gynnwys mewn cywiriad (OJ Rhif L 191, 28.5.2004, t.1), ac y mae diwygiadau pellach nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([8])           OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig y Rheoliad wedi ei gynnwys mewn cywiriad (OJ Rhif L 226, 25.6.2004, t.22), Mae testun diwygiedig y Rheoliad wedi ei gynnwys mewn cywiriad.

([9])           O.S. 1995/539, a ddiddymwyd mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2005/2059, mewn perthynas â’r Alban gan O.S.A. 2005/505 ac mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2005/3292.

([10])         O.S. 1991/2242.

([11])         O.S. 1994/2155, a ddiwygiwyd mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2004/106 (Cy. 13).

([12])         1978 p.30.

([13])         O.S. 1994/2853.

([14])         O.S. 2004/106 (Cy. 13).

([15])         O.S. 2008/576.

([16])         OJ Rhif L 312, 11.11.2006, t.6, y gwnaed diwygiadau iddo, nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([17])         OJ Rhif L 160, 26.6.1999, t.21, y gwnaed diwygiadau iddo, nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([18])         OJ Rhif L 223, 21.8.2008, t.3, y gwnaed diwygiadau iddo, nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([19])         1980 p.43; amnewidiwyd adrannau 51 a 52 gan Ddeddf y Llysoedd 2003 (p.39), adran 47.

([20])         OJ Rhif L 116, 22.4.2004, t.32, y gwnaed diwygiadau iddo, nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.